Cwestiynau
Methu dod o hyd i'ch ateb? Gofynnwch i ni mewn demo
Beth mae PMA yn ei wneud?
Ôl-gynhyrchu dwyieithog ar gyfer fideo Cymraeg a Saesneg: golygiadau papur, cydosodiadau cyntaf a golygiadau llawn. Chi sy'n anfon y briff a'r deunydd, a thîm PMA sy'n gwneud y gwaith.
Faint mae'n ei gostio?
Rydym yn rhoi pris fesul prosiect. Anfonwch eich briff, dewiswch beth sydd ei angen, a byddwn yn anfon pris atoch, yn dibynnu ar y nifer.
Sut ydw i'n anfon deunydd atoch?
Ychwanegwch ddolenni iddo ar dudalen eich prosiect: Google Drive, Dropbox, Frame.io neu unrhyw ddolen arall.
Oes angen i ni newid ein meddalwedd golygu?
Nac oes. Os gofynnwch am gydosodiad cyntaf, mae'n dod gyda phrosiect Premiere Pro i'ch golygydd barhau ohono.
Alla i ofyn am newidiadau?
Gallwch. Pan fydd y gwaith yn barod i'w adolygu, dewiswch "Gofyn am newidiadau" ar dudalen eich prosiect a dywedwch wrthym beth sydd angen ei newid, gyda chodau amser os oes modd. Mae dwy rownd o ddiwygiadau wedi'u cynnwys, yn seiliedig ar y briff.
Ydy PMA ar gael yn Gymraeg?
Ydy. Gallwch ddefnyddio'r wefan hon a thudalennau eich prosiect yn Gymraeg neu'n Saesneg, a newid iaith unrhyw bryd.
Oes meddalwedd y gallwn ei rhedeg ein hunain?
Mae meddalwedd hunanwasanaeth, i dimau sydd am redeg PMA eu hunain, ar y gweill. Tan hynny, tîm PMA sy'n gwneud y gwaith.